Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol

17 Mehefin 2014 am 12:15 yn Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd

Darren Millar AC:  Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol ym mis Tachwedd 2012, i godi ymwybyddiaeth o’r system ariannol a’r problemau cymdeithasol y mae’n ei achosi, ac i nodi atebion ar y cyd ac i ddylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth, pan fydd hynny’n bosibl. Gwnaed y cyflwyniad olaf gan Fran Boait, o Positive Money UK, ym mis Mawrth 2014, a dywedodd hi:

 

Mae arian yn hanfodol i’n bywydau bob dydd ac mae llawer o’n problemau cymdeithasol ac economaidd yn ymwneud ag ef. Faint ydym ni’n ei ddeall am arian mewn gwirionedd? Pa wahaniaeth pwy sy’n creu arian ar gyfer cymdeithas, a sut y gall mwy o ymwybyddiaeth helpu?

 

Gwyddom sut y bydd banciau’n creu arian, drwy fenthyca, ac nad yw hyn er lles y cyhoedd  bob amser. Yr hyn sydd angen i ni ei wybod yw, beth yw’r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd, a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella’r sefyllfa ar gyfer busnesau a phobl?

 

Y Brif Araith

Mynediad i Gyllid yn Nghymru gyda Dylan Jones Evans

Derbynnir y gall pobl a busnesau yng Nghymru fod yn ei chael hi’n anodd i gael gafael ar gyllid. Mae’r Gweinidog Busnes wedi gofyn am adolygiad o ‘Fynediad at Gyllid yng Nghymru’, yn dilyn cwynion gan fusnesau lleol bod banciau’r Stryd Fawr yn amharod i fenthyca iddynt. Mae dau gam cyntaf yr adroddiad yn atodedig, a gellir ei lwytho oddi ar y wefan. Mae’r adolygiad cyntaf yn edrych ar y sefyllfa bresennol, a’r ail adolygiad yn edrych ar rai o’r bylchau sy’n bodoli o hyd, a pha ddewisiadau eraill sydd ar gael.

Nid yw’r data yn rhoi’r darlun cyflawn, oherwydd nid yw banciau’n awyddus i ddod i’r amlwg, ac nid yw rhai o’r benthycwyr eraill, fel Funding Circle, yn edrych ar ddata rhanbarthol. Yn ystod yr astudiaeth, cafodd 140 o bobl eu cyfweld dros chwe mis. Roedd rhai o’r modelau rhyngwladol a gafodd eu cymharu yn cynnwys:-

·         Sparkassen yn yr Almaen

·         Finnvera yn y Ffindir

·         Banc Gogledd Dakota, Unol Daleithiau America

·         Y Development Bank, Canada

Yn 2013, gwnaed 12,000 o fenthyciadau yng Nghymru, oedd yn gyfanswm o £863,000,000. Mewn cymhariaeth, mae gan y sefydliad hyd-braich sy’n eiddo i’r Wladwriaeth, Cyllid Cymru, £30,000,000 y flwyddyn i’w roi ar fenthyg.

Ar ôl yr Argyfwng Ariannol yn 2008, gostyngodd y gyfradd fenthyca i fusnesau bach a chanolig 30%, er ei fod wedi cynyddu ychydig am gyfnod byr i 14%, mae’n gostwng eto erbyn hyn, sy’n berthynol i weddill y DU. Mae’r Monitor Busnesau Bach a Chanolig yn amcangyfrif bod bwlch benthyca o hyd at £10,000,000,000 ar draws y DU. Mae hyn yn fras yn golygu bod bwlch o £500,000,000 yng Nghymru, gyda busnesau yn ceisio cael credyd ond yn methu â’i gael. Gall benthyciadau banc i fusnesau canolig fod wedi codi, ond yn ôl y data, mae wedi gostwng i fusnesau bach. Efallai fod y dirywiad o ran benthyca i fusnesau bach yn gymaint â 55%. Yn yr un cyfnod, cynyddodd y raddfa fenthyca gan gwmnïau bach yn yr Alban, felly pam y digwyddodd hyn? Pam y gwellodd y gyfradd fenthyca am amser byr yn 2013, cyn dechrau gostwng eto?

Gall rhan fawr o’r broblem hon gael ei phriodoli i’r ffordd y mae banciau yn asesu risg, yn rhoi gwerth ar weithio cyfochrog ac yn dewis a ddylent fuddsoddi mewn rhai sectorau ar hyn o bryd. Yn ôl y Gymdeithas Cyllid sy’n Seiliedig ar Asedau, gwelant hwy fod mwy o alw am gredyd, er bod problem o hyd o ran ymwybyddiaeth am fenthyca o fannau ar wahân i fanciau. Mae’r mathau o fenthyca arall sy’n boblogaidd yn cynnwys rhoi disgownt o ran anfonebau, prydlesu a modelau benthyca rhwng cyfoedion.

Mae Nesta yn awgrymu bod gan y model benthyca rhwng cyfoedion rôl fawr, a’r neges a gaiff ei chyfleu gan sefydliadau fel y Funding Circle yw bod Cymru yn gwneud yn dda. Fodd bynnag, nid oes gan Crowdcube fusnes yng Nghymru o gwbl, a dim ond un sydd gan Seeders, sydd wedi’i leoli yn Abertawe.

Gyda busnesau yn chwilio am gredyd, dengys y data bod 85% o fusnesau yn mynd at eu banc ac nid i unman arall. Mae hynny’n golygu mai dim ond 15% o fusnesau sy’n troi at fenthycwyr eraill ar hyn o bryd, ac mae angen ymgyrch fawr i addysgu a chodi ymwybyddiaeth am y rhan hon o’r diwydiant cyllid sy’n dod i’r amlwg.

Gall Banciau ddweud eu bod yn cymeradwyo 85% o fenthyciadau, ond mae’n debyg mai’r gwir yw bod y ffigur yn agosach at 25%. O’r busnesau yng Nghymru, mae’r amcangyfrifon yn nodi nad yw hyd at 3,000 yn cael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt. Gall y rhesymau pam fod yn gysylltiedig â’u cynllun busnes neu eu statws o ran credyd, ond mewn gwirionedd mae’n ymwneud â sut y mae’r banciau yn asesu risg ac yn gwneud penderfyniadau. 

O ran Busnes Llywodraeth y DU, nid yw Banc Cymru yn cael ei chyfran cynrychioliadol, a phan ofynnwyd i’r Ysgrifennydd Busnes a allai Cymru gael ‘cyfran Barnett’, yr ateb oedd "Na" yn ddigwestiwn. Trwy’r Cynllun Gwarant Menter, mae Cymru’n gwneud yn eithaf da, am fod ganddi’r cyfartaledd isaf o ddiffygion o holl ranbarthau’r DU.

Mae benthyciadau o £5,000 ar gyfer dechrau busnes ar gyfradd llog o 6% ar gael, ynghyd â chymorth busnes a mentora gan nifer o sefydliadau yng Nghymru. Mae grantiau nad ydynt yn ad-daladwy ar gael, ond maent yn brin, ac mae cystadleuaeth ffyrnig amdanynt. Mae mentrau Cyd-ariannu Angel yn bodoli ar gyfer datblygu busnes ac mae hyn yn rhywbeth y byddai modd ei hyrwyddo.

Nid yw cronfa Buddsoddi i Arloesi y DU wedi cael unrhyw effaith yng Nghymru, er bod y Gronfa Cyfalaf Menter wedi dod â £5,100,000 i’r wlad. Mae’r Gronfa Twf Busnes wedi gwneud un buddsoddiad mewn tair blynedd o’i gymharu â 14 yn yr Alban. Cyflawnodd Cymru 1.5% yn unig o gyfanswm y swm. Mae’r swm i unioni’r buddsoddiad oddeutu £23,000,000, sef tua un rhan o dair o’r hyn y gallai fod. Mae’r Rhwydwaith Angel, Xenos yn chwarae ei ran yng Nghymru, yn union fel y mae Link Scotland yn ei wneud ar gyfer cwmnïau yn yr Alban.

Mae Cyfalafwyr Menter yn tueddu i gyfyngu ar eu gweithgarwch yn Llundain, ac er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ysgogi busnes drwy roi cymaint â £70,000,000 mewn grantiau iddynt, mae diffyg yn y credyd sydd ar gael ar gyfer buddsoddi mewn busnes o hyd. Gall Cyllid Cymru roi benthyciadau o hyd at £200,000, o ganlyniad i gael cyfalaf o Gronfa Jeremie. Y broblem gyda Chyllid Cymru yw’r gyfradd llog y maent yn ei godi, a chylch gwaith y sefydliad hwn sy’n eiddo i’r Wladwriaeth. Rydym yn gweld buddsoddiad yn gostwng gan Cyllid Cymru fel y mae Cronfa Jeremie yn lleihau. Mae rhagor o fuddsoddi yn Lloegr, a’r gamp i Gyllid Cymru yw rheoli mwy o arian gyda’r un faint o adnoddau.

I gloi, mae cwmnïau bach yn wynebu amseroedd anodd iawn. Mae’r cymorth i fusnes ar hyn o bryd yn dameidiog yng Nghymru, ac ychydig o gefnogaeth a welwyd i fenthycwyr eraill fel cyllid sy’n seiliedig ar asedau, prydlesu anfonebau neu fenthyca rhwng cyfoedion hyd yma. At ei gilydd, mae’r ffigurau yn awgrymu bod bwlch o £500,000,000 yn y cyllid. Mae’r sefydliad cyllid sy’n eiddo i’r wladwriaeth ar hyn o bryd yn bodoli i wneud elw, nid yn benodol i greu cyfleoedd gwaith.

Ni fyddai sefydliad newydd, fel Banc Datblygu, yn bod i helpu’r sector cyhoeddus i ddisodli’r sector preifat mewn gwasanaethau ariannol. Yn hytrach, ei rôl fyddai ychwanegu at weithgareddau banciau preifat ac i ysgogi galw am fuddsoddi gan fusnesau yng Nghymru. Y dewis arall i Lywodraeth Cymru yw ffurfio "banc heriol" a allai gynnig dewis gwirioneddol yn lle’r chwe banc mawr, ond efallai na fydd Cymru yn barod ar gyfer hynny eto ... Diolch yn fawr.

Sesiwn holi ac ateb

PB:       i) Pam y caniatáwyd i Gyllid Cymru fod mor ddrud?

ii) Canfu Awdurdod Datblygu Cymru gyfleoedd da, felly pam mae eraill wedi’i chael mor anodd?

iii) Pam mae’n rhaid i Gymru gael cymaint o ‘seilos’ o arian?

iv) Pam nad yw Cymru yn barod am fanc heriol?         

 DJE:     i) Mae Cyllid Cymru yn ariannu ei hunan, a dyna pam y mae angen iddo godi’r cyfraddau uchel. Os ydym am roi gwell bargen i fusnesau bach a chanolig bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r gost.

ii) Mae hynny’n bwnc ar gyfer rywdro eto.

iii) Yn Iwerddon y bwriad yw creu Banc Datblygu i gael rhagor o hyblygrwydd. Er enghraifft, gallent ddewis cynnig ysbaid o ddwy flynedd heb godi llog, ac yna codi cyfradd uwch ar ôl y ddwy flynedd gyntaf. Nid yw talu 10c o bob £1 fel llog yn gwneud synnwyr i lawer o fusnesau newydd.

iv) Gall y bobl fod yn barod am fanc sy’n gwasanaethu cwsmeriaid a chleientiaid yn well, ond mae’n ymwneud ag ewyllys gwleidyddol i sefydlu banc o’r fath.

JM: Sut mae banciau’n trefnu penderfyniadau?

DJE: Nid yw cyfeiriad cyfochrog ar gael yn yr un gyfran, ac maent yn tanbrisio llawer o eiddo. I wneud benthyciadau yn fwy fforddiadwy maent yn aml yn annog busnesau i gymryd benthyciadau mwy dros gyfnod hwy, ond nid hyn yw’r peth gorau ar gyfer y busnes bob amser. Maent yn gwahaniaethu yn erbyn sectorau fel hamdden, twristiaeth ac amaethyddiaeth yng Nghymru. Hefyd, rhoddir mwy o bwys ar statws credyd yr unigolion yn awr, sy’n golygu y gall sefyllfa lle mae’r "cyfrifiadur yn dweud NA" godi. Mae’r cam o wneud penderfyniad wedi cael ei wahanu oddi wrth leoliad y busnes, a’r bobl yn y gymuned.

RP: Nid ydych wedi sôn am ddefnyddio cronfeydd pensiwn fel modd o gael gafael ar gyllid, ac mae hyn am y rheswm mai ychydig o bobl sy’n gwybod am yr hyn y gall cronfeydd pensiwn ei wneud i ddarparu credyd ar gyfer busnes.

DJE: Pwynt da. Mae hyn yn rhywbeth a gaiff ei ystyried yn y trydydd cam, a cham olaf yr adolygiad. 

CB Gorfodwyd y WDA i ryddhau £100,000,000 ar gyfer dechrau busnesau ac nid yw Cyllid Cymru wedi ei adfer yn llawn. Byddai ar fanc o Gymru sy’n cystadlu angen £250,000,000* i gael trwydded bancio, ond mae angen rhagor o gystadlu yn y maes yng Nghymru.

DJE: Mae banciau fel Handelsbank yn darparu rhywfaint o gystadleuaeth i’r ‘chwe phrif fanc’ ond mae’n gywir dweud mai Cymru yw’r mwyaf crynodedig o ran cyllid o’r holl genhedloedd datblygedig. Mewn trafodaethau â Phrif Weithredwr y Metro Bank, datgelodd fod ei wraig yn dod o Gaerdydd, ac maent yn gobeithio ehangu o’r De-ddwyrain i Gymru a De-orllewin Lloegr. Nid yw Banciau mor boblogaidd â hynny, felly mae’n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o gael benthyciadau am gost bychan a chael banciau i weithio’n well.

* Mae newidiadau i Gyfraith Bancio bellach yn golygu mai dim ond £10,000,000 mewn cronfeydd cyfalaf wrth gefn sy’n ofynnol yn awr.

AB: Soniodd James Vaccaro o Fanc Triodos am "ble mae ein harian a beth y mae’n ei wneud?". Pan na fyddwn ni yn defnyddio ein harian, byddem yn hoffi gwybod ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion da.

DJE: Mae Jerry Halter yn edrych ar y defnydd o gronfeydd pensiwn i fuddsoddi mewn seilwaith, fel bod modd i’r economi yn ei chyfanrwydd elwa. Mae’r canfyddiad o risg yn dal yn broblem fawr, a gellir gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am eu harian.

AH: Mae ethos Bancio Islamaidd wedi’i gwmpasu’n llawn yn yr arferion gorau y soniwyd amdanynt gennych. Mae’r model yn edrych ar y busnesau sydd eisiau buddsoddiad, a’r daioni y gellir ei wneud o’u helpu. Yn hytrach na chodi llog, ceir buddsoddiad ecwiti lle mae’r risgiau a’r gwobrau yn cael eu rhannu’n deg. Yn y Dwyrain Canol, mae potensial ar gyfer buddsoddiad enfawr y gellid ei ddefnyddio, gyda rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

DJE: Wrth edrych ar fodelau arfer gorau yn fyd-eang, rydym wedi edrych ar Fancio Islamaidd ac wedi dod o hyd i rai nodweddion cadarnhaol i feddwl amdanynt.

DM: A fyddai Banc Cymru yn gallu sicrhau bod arian yn cael ei greu er lles y cyhoedd?

DJE: Yn y Ffindir, mae Finnvera yn cynnig benthyciadau arian newydd o hyd at 40,000 Ewro ar gyfradd o rhwng 1.5 a 4% ar gyfer busnesau bach a chanolig. Uwchben y trothwy maent yn cynnig gwarantau menter, sef yr ail offeryn ariannol mwyaf poblogaidd yn Ewrop. Mae sicrhau bod y cydbwysedd o ran ysgogiad yn gywir yn bwysig.

Sefydlwyd Banc Gogledd Dakota ym 1919 yn sgîl methiant yn y farchnad, pan wrthodwyd rhoi credyd i ffermwyr. Maent, nid yn unig wedi goroesi, ond maent wedi llwyddo, drwy weithio gyda banciau preifat ac nid yn eu herbyn.

Mae’r galw am orddrafftiau yn gostwng am eu bod yn un o’r mathau o gyllid mwyaf drud. Gwelir rhywfaint o dwf o ran disgowntio anfonebau, gan ei fod yn un o’r mathau o gyllid rhataf. Mae’n ymwneud â dod o hyd i’r hyn sy’n briodol ar gyfer y busnes.

Yn ôl Cyllid Cymru, byddai’n rhaid iddynt roi cymhorthdal ​​o £18,000,000 ar gyfradd ddiofyn o 22%. Yn amlwg, mae lle i sefydliad arall yng Nghymru a allai gydbwyso offerynnau ariannol ar gyfer datblygiad economaidd, gan sicrhau bod cyfraddau’r cyllid yn fforddiadwy.

Yr amserlen ar gyfer cyfnod yr adolygiad terfynol yw gosod nod y dylai fod yn barod ar gyfer y Gweinidog erbyn diwedd 2014. Cyn hynny, byddwn yn cynnal mwy o ymchwil ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi ein canfyddiadau.

DM: Diolch yn fawr Dylan. Diolch i bawb am ddod. Mae’n dda gweld bod cymaint o ddiddordeb gan bob un o’r pleidiau yng Nghymru, a gobeithio y gallwn ddatblygu consensws a chefnogi’r adroddiad.

 

 

I ddysgu mwy a chymryd rhan yng Ngrŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Ddiwygio Ariannol.

 

Cysylltwch â: Justin -  positivetrigger@gmail.com